Up to date = Safe and sound
For some vaccines to work properly, they have to be given more than once.
This is why we will invite your little one for their routine childhood vaccinations at eight weeks old, 12 weeks, 16 weeks, 12 to 13 months and again at around three years old.
By bringing your child in for vaccination EVERY time they are invited, you are ensuring they have the best protection possible against nasty illnesses such as meningitis, measles, mumps, whooping cough, polio and more.
Some of these diseases are rarely found in the UK these days or have not been seen here for some time. This is because lots of children are vaccinated against them.
How do I know if my child is up to date with their vaccinations?
If you’re not sure if your child is up to date, check their ‘red book’, which is also known as the Personal Child Health Record.
The book contains a list of the vaccinations they should have and at what age they should have them.
Each vaccine they receive will be recorded in the book.
Contact us if you’re still not sure or to arrange a catch up appointment.
New to Wales?
Your child may need extra doses to bring them in line with our routine vaccination schedule in Wales. Check with your health visitor or contact the surgery for advice.
Cadw’n Gyfredol = Diogel a chadarn
Er mwyn i rai brechlynnau weithio'n iawn, mae'n rhaid eu rhoi fwy nag unwaith.
Dyma pam y byddwn yn gwahodd eich plentyn bach ar gyfer ei frechiadau plentyndod arferol yn wyth wythnos oed, 12 wythnos, 16 wythnos, 12 i 13 mis ac eto pan fydd tua thair blwydd oed.
Trwy ddod â’ch plentyn i mewn i gael ei frechu BOB tro y mae’n cael ei wahodd, rydych chi’n sicrhau bod ganddo’r amddiffyniad gorau posibl rhag salwch cas fel llid yr ymennydd, y frech goch, clwy’r pennau, y pâs, polio a mwy.
Anaml y canfyddir rhai o’r clefydau hyn yn y DU y dyddiau hyn neu nid ydynt wedi’u gweld yma ers peth amser. Mae hyn oherwydd bod llawer o blant yn cael eu brechu yn eu herbyn.
Sut ydw i'n gwybod a yw fy mhlentyn wedi derbyn y brechiadau diweddaraf?
Os nad ydych yn siŵr a yw eich plentyn yn gyfredol, gwiriwch ei ‘lyfr coch’, a elwir hefyd yn Gofnod Iechyd Personol y Plentyn.
Mae'r llyfr yn cynnwys rhestr o'r brechiadau y dylent eu cael ac ar ba oedran y dylent eu cael.
Bydd pob brechlyn a gânt yn cael ei gofnodi yn y llyfr.
Cysylltwch â ni os ydych yn dal yn ansicr neu i drefnu apwyntiad dal i fyny.
Newydd i Gymru?
Mae’n bosibl y bydd angen dosau ychwanegol ar eich plentyn i sicrhau eu bod yn unol â’n hamserlen frechu arferol yng Nghymru. Gwiriwch gyda'ch ymwelydd iechyd neu cysylltwch â'r feddygfa am gyngor.